Site
A Accessibility

Canllawiau I Ysgolion Uwchradd A Gynhelir Yng Nghymru

Maintained secondary schools in Wales

O fis Medi 2011 ymlaen, bydd Gwasanaeth RhUD i Ysgolion yng Nghymru ar gael gan APADGOS.  Golyga hyn y bydd y broses o gael RhUD i ddisgyblion 14 oed a hŷn yn broses awtomatig o hyn ymlaen ac na fydd angen i ysgolion a gynhelir yng Nghymru gyflwyno data yn uniongyrchol i’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu i gael Rhifau Unigryw Dysgwyr.  

Mae’r gwasanaeth RhUD newydd yn galluogi system DEWi i ddefnyddio’r wybodaeth ddemograffig sydd eisoes wedi’i chofnodi gan ysgolion yn rhan o’r broses CYBLD er mwyn llenwi’r Gofrestr Dysgwyr a chael RhUD ar gyfer dysgwyr drwy gyswllt ‘gwasanaeth gwe’ y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu. Unwaith y bydd Rhifau Unigryw’r Dysgwyr wedi’u rhoi, bydd DEWi yn cynhyrchu dwy ffeil i’w lawrlwytho gan ysgolion:
  1. ffurflen drosglwyddo gyffredin sy’n cynnwys Rhifau Unigryw’r Dysgwyr i’w mewnforio ar System Gwybodaeth Reoli (MIS) ysgolion
  2. ffeil eithriadau ar fformat Excel
Mae’r system yn cael ei datblygu er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar ysgolion ac er mwyn bod mor dryloyw â phosibl.

Bydd angen i chi ddal Rhifau Unigryw’r Dysgwyr yn erbyn cofnodion unigol yn system MIS eich ysgol a’u cynnwys yn y datganiad CYBLD.

Unwaith y byddant wedi’u cofrestru, bydd angen i ysgolion gael hyd i Borthol Trefniadaeth y Gofrestr Dysgwyr i ddiweddaru gwybodaeth ddemograffig am ddysgwyr, i gofnodi dewisiadau o ran rhannu data ac i ymdrin ag ‘eithriadau’.

Noder

  • Dylai Sefydliadau Troseddwyr Ifanc ddisgwyl am ganllawiau pellach gan yr Adran Addysg a Sgiliau cyn cael RhUD (gweler y Canllawiau ar gyfer Sefydliadau Troseddwyr Ifanc isod).
  • Os nad yw ysgolion eisoes wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu, dylent wneud hynny nawr mewn da bryd cyn i’r Gwasanaeth RhUD newydd ar gyfer Ysgolion fynd ‘yn fyw’ ymhen rhai wythnosau.
  • Dylech wneud yn siŵr bod y manylion ar gyfer eich ysgol yn gyson â’r hyn sydd wedi’i restru ar wefan UKRLP pan fyddwch yn cwblhau dogfennau cofrestru’r LRS.
  • Er mwyn hwyluso’r gwaith o brosesu’r ceisiadau gan LRS yn Coventry a fyddech cystal â chwblhau’r dogfennau Cofrestru yn Saesneg.

Cymorth

  • dylai cwestiynau am gasglu a chyflwyno manylion am ddysgwyr yn natganiadau CYBLD gael eu cyfeirio drwy sianeli cymorth arferol ysgolion, hynny yw uned ysgolion/tîm System Rheoli Gwybodaeth yr Awdurdod Lleol
  • dylai problemau a gwybodaeth gyffredinol am ddefnyddio Gwasanaeth DEWi gael eu cyfeirio at dîm Cymorth Rheoli Gwybodaeth Llywodraeth y Cynulliad PLASC@wales.gsi.gov.uk
  • dylai ceisiadau am ragor o wybodaeth am gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu a defnyddio porthol Trefniadaeth y Gofrestr Dysgwyr gael eu cyfeirio at Ddesg Gymorth y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu lrssupport@learningrecordsservice.org.uk / 0845 602 2589
  • dylai cwestiynau am safle’r ysgol ar Gofrestr Darparwyr y Deyrnas Unedig gael eu cyfeirio at www.ukrlp.co.uk / 0845 202 1600
  • I gael unrhyw wybodaeth arall anfonwch e-bost i MIAP@wales.gsi.gov.uk neu at Gary Williams, neu ffoniwch 07896780489  
  • Bydd APADGOS yn darparu canllawiau pellach ac yn trefnu sesiynau hyfforddiant dros y misoedd i ddod