Site
A Accessibility

News

Rhifau Unigryw’r Dysgwr ar gyfer ysgolion yng Nghymru


News in English

Mae Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei hymrwymiad i barhau i weithio gyda'r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu.

Ym mis Ionawr, cymeradwyodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, y broses o roi Rhif Unigryw'r Dysgwr a'r Cofnod Dysgu Personol ar waith i ddysgwyr 14 oed a throsodd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys:

  • arian i alluogi Rhifau Unigryw'r Dysgwr i gael eu dyrannu i ddysgwyr 14 oed a throsodd mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru
  • prosiect i ystyried dichonolrwydd cynnwys data ar gymwysterau yng Nghymru ar y Cofnod Dysgu Personol
  • darpariaeth i ddysgwyr yng Nghymru gael gafael ar eu Cofnodion Dysgu Personol eu hunain drwy Gyrfa Cymru Ar-lein.

Bydd darparu Rhifau Unigryw'r Dysgwr i ysgolion yng Nghymru yn galluogi darparwyr dysgu a sefydliadau dyfarnu yng Nghymru a Lloegr i gael gafael ar wybodaeth a rennir am gyflawniadau a chymwysterau dysgwyr unigol, a enillir mewn ysgolion a thu hwnt, drwy ffynhonnell ar-lein ddiogel.  Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, a ddyfernir drwy gasglu data o nifer o ffynonellau, ymhlith y gwasanaethau a fydd yn elwa o hyn.

Y penderfyniad allweddol hwn yw canlyniad diweddaraf trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu, sydd eisoes wedi arwain at gyflwyno Rhifau Unigryw'r Dysgwr i'r sector Addysg Bellach yng Nghymru, a phrosiect peilot llwyddiannus gyda 17 o ysgolion.

Mae gan dros 400,000 o ddysgwyr yng Nghymru Rifau Unigryw'r Dysgwr eisoes, a ddyrannwyd yn bennaf gan golegau Addysg Bellach (AB) a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith.  Eleni, caiff Rhifau Unigryw'r Dysgwr eu hymestyn i bob dysgwr 14 oed a throsodd mewn ysgolion a gynhelir ledled y wlad.

Caiff data ar gyfer Rhifau Unigryw'r Dysgwr ei gyflwyno'n awtomatig i'r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu drwy fenter Cyfnewid Data Cymru sy'n casglu'r data perthnasol o Gyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion gan ysgolion bob mis Ionawr a mis Medi. 

Dolenni perthnasol: