Site
A Accessibility

Canllawiau I Ysgolion Preifat Yng Nghymru

Private schools in Wales

Mae’r Gwasanaeth RhUD i Ysgolion yng Nghymru ar gael i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig. Dylai ysgolion preifat gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu a chael RhUD ar gyfer eu disgyblion drwy’r Gofrestr Dysgwyr. Mae’r Gwasanaeth yn cynnig tair ffordd o gael hyd i Rhifau Unigryw Dysgwyr:
  1. Porthol Trefniadaeth y Gofrestr Dysgwyr ar y we i gael RhUD unigol. Os oes angen i chi gael grŵp o hyd at 50 RhUD dyma, o bosibl, y ffordd gyflymaf i chi eu cael a’r ffordd y byddem yn ei hargymell ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion preifat
  2. Swp brosesu drwy’r Gofrestr Dysgwyr  i gael sypiau rhwng 50 a 5000 o Rifau Unigryw Dysgwyr. Rhaid i’r swp ffeiliau gydymffurfio â Chanllawiau Swp Ryngwyneb y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu. Mae hon yn broses fydd yn digwydd dros nos ac mae’n bosibl y bydd yn creu ‘eithriadau’ lle bydd y system yn cwestiynu’r wybodaeth a ddarperir
  3. Gwasanaethau byw ar y we lle bo’r feddalwedd gwybodaeth reoli wedi’i chysylltu’n uniongyrchol â’r Gofrestr Dysgwyr ac yn rhyngwyneb awtomatig i gael hyd i RhUD sydd eisoes yn bod neu i gael RhUD newydd. Mae’r feddalwedd gwybodaeth reoli yn helpu i ymdrin â’r ‘eithriadau’ ond mae hefyd yn dibynnu ar sicrhau bod cyflenwr y feddalwedd yn darparu’r rhyngwyneb â’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu
Bydd angen i ysgolion preifat ddefnyddio porthol Trefniadaeth y Gofrestr Dysgwyr hefyd i uwchraddio gwybodaeth ddemograffig ynghylch dysgwyr er mwyn cofnodi dewisiadau o ran rhannu data ac i ymdrin ag ‘eithriadau’.

Ewch i wefan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu i gael rhagor o wybodaeth www.learningrecordsservice.org.uk/schools.

Pwyntiau i’w nodi

  • nid yw RhUD yn orfodol mewn ysgolion yng Nghymru ac nid oes angen i ysgolion preifat gael RhUD ar gyfer eu disgyblion/myfyrwyr oni bai y gofynnwyd iddynt eu cael gan ddarparwyr dysgu sy’n bartneriaid iddynt neu Sefydliadau Dyfarnu

Cymorth

  • dylai ceisiadau am ragor o wybodaeth am gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu a defnyddio’r Gofrestr Dysgwyr gael eu cyfeirio at Ddesg Gymorth y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu lrssupport@learningrecordsservice.org.uk / 0845 602 2589
  • dylai cwestiynau am Rif Cofrestru Darparwr y Deyrnas Unedig (UKPRN) a safle’r ysgol ar Gofrestr Darparwyr y Deyrnas Unedig gael eu cyfeirio at www.ukrlp.co.uk / 0845 202 1600
  • i gael unrhyw wybodaeth arall anfonwch e-bost i MIAP@wales.gsi.gov.uk neu at Gary Williams, neu ffoniwch 07896780489
  • bydd APADGOS yn darparu canllawiau pellach ac yn trefnu sesiynau hyfforddiant dros y misoedd i ddod