Gwybodaeth I Ysgolion Yng Nghymru
Schools in Wales
Gwybodaeth wedi’i diweddaru i Ysgolion yng Nghymru – Chwefror 2012
Fel y gwyddoch roedd rhaid gohirio’r hyn a gynlluniwyd ar gyfer yr Hydref sef cyflwyno lanlwythiadau data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn fyw ar y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu er mwyn cael Rhifau Unigryw’r Dysgwr.
Mae’n dda gennym fedru eich hysbysu bod y Gweinidog wedi rhoi ei gymeradwyaeth yn Ionawr 2012 i weithredu’n llawn Rif Unigryw’r Dysgwr a’r Cofnod Dysgu ar gyfer dysgwyr 14 oed a hŷn yng Nghymru. Golyga hyn y byddwn yn cychwyn y Gwasanaeth Rhif Unigryw’r Dysgwr yn fuan ar gyfer Ysgolion Uwchradd a Gynhelir ac yn cael Rhifau Unigryw’r Dysgwr (drwy gyfrwng Menter Cyfnewid Data Cymru - DEWi) am bob disgybl sydd yn 14 oed neu’n hŷn drwy ddefnyddio’r data dysgwyr a gyflwynwyd ar ffurflenni’r CYBLD yn Ionawr 2012.
Dyma fwy o eglurhad ar y sefyllfa:
Ni fyddwn yn cynnal y peilot estynedig arfaethedig gan ddefnyddio data CYBLD Medi 2011 i gael Rhif Unigryw’r Dysgwr disgyblion sydd ym mlynyddoedd 12-14. Yn hytrach na hynny byddwn yn cyflwyno data CYBLD Ionawr 2012 i’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu i gael Rhif Unigryw’r Dysgwr am bob disgybl sydd yn 14 oed neu hŷn ar y 1af Medi 2011 ac ym mlynyddoedd 10, 11, 12, 13 a 14. Sylwch na fyddwn yn cyflwyno data ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn 9. Edrychwch ar amserlen Rhif Unigryw’r Dysgwr a ddiweddarwyd ar gyfer ysgolion.
- Bydd gwasanaeth Rhif Unigryw’r Dysgwr ar gael i’r holl ysgolion uwchradd a gynhelir ac i’r ysgolion arbennig sydd wedi cadarnhau wrth Dîm Rhif Unigryw’r Dysgwr Llywodraeth Cymru (drwy Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru neu Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig De Cymru) eu bod yn dymuno cymryd rhan.
- Cyflwynir y data i’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu fesul ysgol drwy Fenter Cyfnewid Data Cymru wrth i ffurflenni’r CYBLD ddod i law a chael cymeradwyaeth gan Dîm Ystadegau Ysgolion Llywodraeth Cymru.
- Bydd y broses yn cychwyn yn Chwefror 2012 ac yn parhau hyd nes y bydd y ffurflen CYBLD olaf wedi cael ei phrosesu ym Mawrth 2012.
- Mae Gwasanaeth Rhif Unigryw’r Dysgwr yn defnyddio system Menter Cyfnewid Data Cymru i hysbysu’r ysgolion bod ffeiliau Rhif Unigryw’r Dysgwr wedi eu cynhyrchu ar eu rhan.
Rhaid i holl Ysgolion Uwchradd Cymru nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny sicrhau bod eu manylion yn gywir ar Gofrestr y DU o Ddarparwyr Dysgu a chofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu er mwyn iddynt fedru cael mynediad i borth y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu i ddatrys ‘eithriadau’. Mae rhai ysgolion nad ydynt eto wedi cwblhau’r broses gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu.
Os oes angen, diweddaru manylion yr ysgol ar Edubase
Dylai’r Ysgolion Arbennig sydd yn dymuno cymryd rhan hefyd gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu mor fuan ag y bo modd gan ddilyn yr un broses â’r Ysgolion prif lif a Gynhelir yng Nghymru (gweler pwynt 11 isod).
Ni fydd Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cael eu cynnwys yn y lanlwythiad data er y bydd disgyblion a gofrestrwyd ddwywaith yn cael Rhif Unigryw’r Dysgwr trwy’r Gwasanaeth Rhif Unigryw’r Dysgwr ar gyfer eu hysgol prif lif.
Rhaid i’r holl Ysgolion Uwchradd adael i’w disgyblion 14 oed a hŷn weld yr Hysbysiad Preifatrwydd mor fuan ag y bo modd. Dylai’r Awdurdod Lleol fod wedi diwygio’r Hysbysiad Preifatrwydd er mwyn iddo gynnwys y bwriad i roi Rhifau Unigryw’r Dysgwr a chreu Cofnodion Dysgu Personol, yn unol â’r templed
Byddwn yn anfon mwy o wybodaeth am y broses at ysgolion drwy’r Awdurdodau Lleol. Yn y cyfamser gofynnwn i chi wneud yn siŵr bod yr holl ysgolion uwchradd sydd yn ardal eich Awdurdod Lleol wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu. Os nad ydynt eisoes wedi cofrestru dylent wneud hynny ar unwaith.
Mae mwy o wybodaeth am gofrestru ac am y Gwasanaeth Rhif Unigryw’r Dysgwr ar gyfer ysgolion yng Nghymru ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu: http://www.learningrecordsservice.org.uk/schools/welsh-schools.htm. Os bydd gennych gwestiynau pellach cysylltwch â gary.williams2@wales.gsi.gov.uk
Cofiwch godi unrhyw broblemau, gan gynnwys problemau technegol, gyda’ch system gwybodaeth reoli neu gyda Menter Cyfnewid Data Cymru drwy eich sianeli cefnogaeth arferol.
Bydd cyfarwyddyd pellach yn cael ei ddosbarthu yn ystod yr wythnosau nesaf i helpu’r broses a bydd yn cael ei osod ar borth yr ysgol a gwefannau perthnasol Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu.
Cyswllt ag adnoddau a dogfennau
Manylion cyswllt