Canllawiau I Ysgolion Arbennig Yng Nghymru
Special schools in Wales
Mae’r gwasanaeth RhUD ar gael i ysgolion arbennig sydd wedi cadarnhau wrth Dîm RhUD Llywodraeth Cymru (drwy Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru (NWASSH) neu Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig De Cymru (SWASSH)) eu bod am fod yn rhan o’r gwasanaeth. Caiff data eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Cofnodion Dysgu (LRS) i gael RhUD fesul ysgol drwy DEWi wrth i’r datganiadau CYBLD gael eu derbyn a’u cymeradwyo gan Dîm Gwybodaeth a Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru. Bydd y broses yn dechrau ym mis Chwefror 2012 a bydd yn parhau hyd nes nes y caiff y datganiad CYBLD olaf ei brosesu ym mis Mawrth 2012.
Dylai Ysgolion Arbennig sydd am fod yn rhan o’r Gwasanaeth RhUD wirio bod eu manylion yn gywir ar Gofrestr y DU o Ddarparwyr Dysgu (http://www.ukrlp.co.uk/) a chofrestru gyda’r LRS drwy ddilyn yr un broses ag Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru.